Taith Sir Benfro 2022 – Her Codi Arian
Ar ôl dwy flynedd o ddigwyddiadau rhithiol llwyddiannus, mae ras feicio Taith Sir Benfro yn ôl yn ei ffurf draddodiadol ddydd Sadwrn 14 Mai yn Ysgol Penrhyn Dewi, Tyddewi, SA62 6QH.
Mae cofrestru ar y daith bellach ar agor ac mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cael 20 lle am ddim i gefnogwyr fyddai’n dymuno cofrestru ar gyfer yr her a’r cyfle i godi arian i’r Elusen.
Mae Taith Sir Benfro yn wirioneddol yn gyfle i weld y Sir ar ei gorau. Yn 2019 enillodd y daith wobr Twristiaeth Sir Benfro am Ddigwyddiad Gorau’r Flwyddyn.
Mae dewis o bedwar llwybr beicio eto eleni fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn dibynnu ar eich gallu. Gellir dod o hyd i wybodaeth yma am y pedwar llwybr.
Dyma ddywedodd un beiciwr:
Yn syml, y diwrnod allan gorau ar y calendr.
Nid yw ras feicio Taith Sir Benfro byth yn siomi, diolch unwaith eto am ddiwrnod anhygoel o 84 milltir dros fryn a dol. Diolch i’ch marsialiaid caredig ac i’r ATC. Mae’r gorsafoedd bwyd heb eu hail ac mae’r golygfeydd yn hollol drawiadol. Rydyn ni wrth ein boddau, y diwrnod allan gorau ar y calendr. Beth well am noson dda o gwsg!
Diolch. Donna Bradley.
Rhoddir y lleoedd cofrestru am ddim ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech gael lle ar ras feicio Taith Sir Benfro ac os gallwch godi arian (o leiaf £150) i Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro, anfonwch e-bost at support@pembrokeshirecoasttrsut.wales a gallwn eich rhoi ar ben ffordd â thudalen codi arian a rhoi i chi eich cod cofrestru.