Partneriaeth Addysg ‘Gwreiddiau’ yn mynd o nerth i nerth
Mae partneriaeth addysg lwyddiannus, sydd â’r nod o helpu plant i archwilio’r amgylchedd naturiol, cynnyrch a rhwydweithiau bwyd yn Sir Benfro, yn mynd o nerth i nerth yn ei thrydedd blwyddyn.
Bydd y cynllun addysg ‘Gwreiddiau/Roots’ – sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chymorth ariannol South Hook LNG – yn parhau i ddarparu sesiynau dysgu awyr agored difyr i gannoedd o blant lleol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae plant o chwe ysgol gynradd yn ardal Aberdaugleddau wedi bod yn archwilio cynnyrch naturiol a chadwyni bwyd yng nghymunedau amaethyddol, arfordirol a gwledig y Sir.
O beillio, maethynnau’r pridd a rheoli dolydd, i sut mae bwyd yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol a bywyd teuluol, mae plant wedi cysylltu â’r amgylchedd yn ogystal â busnesau a chymunedau lleol.
Wrth i’r prosiect symud ymlaen i’w drydedd flwyddyn, bydd astudiaethau cynefinoedd a’r gwaith parhaus o greu a chynnal amgylcheddau sy’n tyfu ar dir ysgolion yn parhau i fod yn feysydd ffocws allweddol, gyda chynlluniau i gryfhau’r ymwybyddiaeth o gynhyrchwyr lleol yma yn Sir Benfro.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu.
Mae’r bartneriaeth â South Hook LNG yn dangos cyd-ddealltwriaeth o ba mor hanfodol yw addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol.