Pobl, Llwybrau a Pheillwyr

Posted On : 12/07/2022

Nod y prosiect hwn ar hyd rhan o goridor arfordirol Sir Benfro oedd newid y ffordd yr oedd Llwybr yr Arfordir yn cael ei reoli. Gwnaed hyn drwy wneud gwelliannau bioamrywiaeth yn ganolog i’r gwaith o gynnal a chadw Llwybr yr Arfordir er mwyn gwella’r cysylltiadau rhwng rhywogaethau pwysig o bryfed peillio, a hwyluso mynediad a phori arfordirol.

Nodau:

  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth ar hyd llwybr yr arfordir.
  • Sicrhau modd o roi mesurau ymarferol o reoli ar waith o fewn ‘Ardal Infertebratau Pwysig Arfordir Sir Benfro’.
  • Cynnal a gwella prosiectau pori arfordirol.
  • Cynnal y cysylltiadau rhwng y rhannau o lwybr yr arfordir sy’n cael eu pori.
  • Darparu hyfforddiant i’r staff a’r gwirfoddolwyr.

Yr hyn a wnaed?

Fel rhan o’r prosiect, mae llwybr yr arfordir wedi’i arolygu i glustnodi ardaloedd y gellir eu gwella er mwyn rhoi gwell cynefin i bryfed peillio.

Arolygwyd 45 milltir o lwybr yr arfordir o Angle i Lanrhath yn ystod haf 2021. Roedd yr arolygon yn chwilio am gyfleoedd lle byddai newidiadau yn rheolaeth llwybr yr arfordir yn cael y budd mwyaf i amrywiaeth planhigion ac anifeiliaid.

Mae rhaglen waith ar gyfer wardeniaid wedi’i chreu ac wedi’i rhoi ar waith mewn rhannau, a bydd y newidiadau mewn rheolaeth yn arwain at well cyfleoedd cynefin i amrywiaeth o rywogaethau. Gall newidiadau bach yn y modd y mae’r wardeniaid yn rheoli’r llwybr wneud gwelliant mawr i bryfed peillio.

Canlyniadau

Mae Llwybr yr Arfordir yn cynnig cynefin amhrisiadwy i bryfed peillio. Er mai dolydd llawn blodau gwyllt a glaswelltiroedd eraill yw’r cynefin gorau i lawer o’n peillwyr, mae gwrychoedd, ffosydd caeau a chloddiau hefyd yn cynnig y cynefinoedd gorau posibl ac yn goridor o fywyd gwyllt o amgylch glannau’r arfordir gan gysylltu â’r cynefinoedd mewndirol fyddai fel arall wedi’u gwahanu.

Mae’r gwaith hwn yn gynyddol bwysig oherwydd bod cynefinoedd yn cael eu darnio’n gynyddol a achosir gan golli cynefin oherwydd ffermio dwys, datblygiadau trefol a newid yn yr hinsawdd. Mae coridor bywyd gwyllt yn cysylltu’r cynefinoedd hyn â’i gilydd ac yn caniatáu i anifeiliaid a thrychfilod symud rhwng ardaloedd. Mae hyn hefyd yn arwain at symud hadau rhwng ardaloedd yn ogystal. Mae cysylltedd a symudiad anifeiliaid/planhigion yn gwneud poblogaethau yn fwy cydnerth i fygythiadau megis newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd.

Mae cyfanswm o 65 o dasgau gwaith sydd o fudd i bryfed peillio wedi’u clustnodi a’u gweithredu ar hyd llwybr yr arfordir a reolir. Dyma enghreifftiau o rai ohonynt.

Mewn rhai mannau ar lwybr yr arfordir, mae ‘waliau’ trwchus o eithin, y ddraenen ddu a’r ddraenen wen wedi ffurfio bob ochr i’r llwybr. Pan fydd y gwynt yn chwythu i fyny’r llwybr, mae’n creu effaith twnnel gwynt sy’n gwneud hinsawdd galetach i bryfed a phlanhigion ffynnu. Er mwyn brwydro yn erbyn hyn, mae ymylon y llwybr wedi’u sgolpio sy’n torri i fyny’r twnnel gwynt ac yn creu pocedi cysgodol i bryfed a phlanhigion ffynnu.

Ar hyd llwybr yr arfordir, mae ardaloedd o dir moel wedi’u creu sydd wedi cynnig safleoedd nythu ar gyfer gwahanol fathau o gacwn a gwenyn. Mae gwenyn yn chwarae rhan hanfodol mewn peillio, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi dioddef dirywiad yng Nghymru, yn union fel ym mhobman arall. Maent yn parhau i wynebu pwysau gan gynnwys colli eu cynefinoedd llawn blodau, y defnydd o gemegau niweidiol, a newid yn yr hinsawdd.

Crëwyd banciau gwenyn, sef wynebau fertigol o bridd noeth lle gall gwenyn a phryfed eraill gloddio eu tyllau nythu. Mae angen i’r rhan fwyaf o fanciau gwenyn wynebu’r de gan y bydd hyn yn rhoi tymheredd cynnes cyson dros yr haf. Mae creu banciau gwenyn sy’n wynebu’r gogledd hefyd yn syniad da gan fod y rhain yn cael eu ffafrio ar gyfer gaeafgysgu gan fod eu tymheredd yn gyson oerach dros y gaeaf. Mae’n beth da i greu banciau gwenyn ar waliau/cloddiau sydd ar y cyfan wedi’u cysgodi rhag y prifwyntoedd.

Mae bryniau morgrug wedi’u clustnodi a’u diogelu ar hyd llwybr yr arfordir. Mae bryniau morgrug yn creu micro-hinsoddau ar raddfa fach ar hyd llwybr yr arfordir. Mae gan bob twmpath wahaniaethau bach mewn maethynnau pridd, tymheredd, lleithder, draeniad a golau’r haul. Mae hyn yn caniatáu mwy o amrywiaeth o laswelltau, perlysiau a phlanhigion blodeuol eraill i ffynnu arnynt, megis teim a physen-y-ceirw. Os caniateir i lystyfiant dyfu o amgylch y bryniau morgrug, ni all yr haul eu cynhesu mwyach a bydd y morgrug yn cefnu arnynt. Mae rhai pryfed megis chwilod a lindys yn bwydo ar forgrug, mae madfallod hefyd yn gwneud yr un peth ac yn defnyddio’r gwres a allyrrir o fryniau morgrug i gynhesu yn ogystal. Mae rhai pryfed yn barasitig i forgrug ac yn defnyddio nyth y morgrug a’u gwaith caled i fwydo eu rhai bach.

Mae coridorau prysgwydd trwchus yn trechu ac yn cysgodi planhigion llai ac yn lleihau amrywiaeth y planhigion ar hyd llwybr yr arfordir. Drwy ehangu‘r ardaloedd hyn, mae hynny wedi lleihau cystadleuaeth ac yn caniatáu i fwy o olau’r haul gyrraedd planhigion llai, gan eu hannog i dyfu a ffynnu.

Mae annog mwy o amrywiaeth o rywogaethau planhigion yn bwysig oherwydd bod hynny yn ei dro o fudd i amrywiaeth pryfed a rhywogaethau eraill ymhellach i fyny’r gadwyn fwyd.

a collage depicting the progress of coast path maintenance

Y Camau Nesaf

Un o’r pethau gorau am gynnal dolydd yw y gellir eu rheoli gyda chyn lleied o ymyrraeth a chost â phosibl ar ôl eu sefydlu. Fodd bynnag, yn anffodus, mae cymaint mwy i’w wneud o hyd i helpu i adfer yr holl ddolydd a gollwyd.

Wrth i gyllid newydd gael ei sicrhau, byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i ehangu’r rhwydwaith o ddolydd yn Sir Benfro. Byddwn yn gweithio i gynyddu arwynebedd y cynefinoedd a reolir yn ffafriol sy’n cynnal ardaloedd o fioamrywiaeth a choridorau allweddol sy’n gysylltiadau rhwng cynefinoedd yn y Parc Cenedlaethol.

Ar ôl cynnal arolwg o lwybr yr arfordir a chynllunio arferion rheoli sy’n ystyriol o bryfed peillio, bydd effaith y prosiect Pobl, Llwybrau a Pheillwyr yn parhau. Yr haf hwn, mae darn o’r llwybr sy’n dal angen ei reoli, ond unwaith y bydd y gwaith wedi’i wreiddio mewn rhaglenni gwaith, bydd yn parhau i gynnal peillwyr ar hyd llwybr yr arfordir yn y blynyddoedd sydd i ddod. Gobeithiwn rannu gwersi’r gwaith hwn yn ehangach gyda Pharciau Cenedlaethol eraill yn y DU.