Cofrestrwch am ddim ar gyfer Taith Sir Benfro 2022 drwy godi arian i elusen

Posted On : 03/02/2022

Ar ôl dwy flynedd o rith-ddigwyddiadau llwyddiannus, bydd y daith feicio o amgylch Sir Benfro, sydd wedi ennill gwobrau, yn dychwelyd yn ei fformat traddodiadol fis Mai eleni. Mae modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad nawr, ac mae ugain lle am ddim i unrhyw un sydd eisiau cofrestru i godi arian i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig sydd wedi ymrwymo i ddiogelu popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gwella wyth safle dôl newydd sy’n ymestyn dros 52 ha yn y Parc Cenedlaethol, gan ddarparu cynefinoedd hanfodol i rywogaethau pryfed peillio pwysig; wedi ariannu digwyddiadau addysg i athrawon, er budd plant ysgolion Sir Benfro; ac wedi galluogi gwaith cynnal a chadw sy’n ystyried pryfed peillio ar hyd tua 65 milltir o Lwybr Arfordir Penfro.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan: “Mae’n fraint bod yn bartner elusennol i’r digwyddiad beicio eiconig a phoblogaidd hwn.

“Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu mewn ffordd sy’n golygu y bydd yr holl arian a godir yn yr her hon yn cael ei wario ar brosiectau a gweithgareddau yn y Parc Cenedlaethol. O ganlyniad, bydd unrhyw un sy’n ymuno yn cael y pleser o fwynhau golygfeydd godidog Arfordir Penfro ar gefn beic, gan wybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w ddyfodol.”

“Bydd y llefydd am ddim yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin a byddant yn golygu codi o leiaf £150 i’r Ymddiriedolaeth. Dylai unrhyw un sydd awydd cofrestru ar gyfer yr her anfon neges at support@pembrokeshirecoasttrust.wales, lle byddant yn gallu eich helpu i greu tudalen codi arian a rhoi cod mynediad am ddim i chi.”

Cynhelir ras feicio Taith Sir Benfro ddydd Sadwrn 14 Mai, a bydd pedwar llwybr gwahanol pob un â hyd gwahanol. Mae gwybodaeth am hyn a dulliau eraill o gofrestru ar gael drwy fynd i wefan y Tour of Pembrokeshire

I gael gwybod mwy am waith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i’r tudalen Taith Sir Benfro 2022 – Her Codi Arian.