Coronafeirws
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu bod yn llacio cyfyngiadau’r Coronafeirws o 1 Mehefin ymlaen. Rydyn ni’n annog pawb i barhau i ddilyn y rheolau ac i aros yn lleol er mwyn cadw Sir Benfro yn ddiogel.
Datganiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Hoffwn ddiolch i bawb yn y Parc am ddilyn yr Arweiniad a helpu i atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymaint y mae pobl yn gweld eisiau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y traethau a mynediad at yr awyr agored, ond rydyn ni’n gofyn i bawb aros yn amyneddgar.
Rydyn ni’n annog pobl i ddilyn y cyngor ac aros yn lleol, i beidio â theithio mwy na phum milltir ac i osgoi mannau poblogaidd a llefydd prysur lle bo’n bosibl – os ydych chi’n meddwl ei fod yn rhy brysur, yna mae’n rhy brysur.
“Nid yw’r Parc Cenedlaethol yn barod i dderbyn niferoedd uchel o ymwelwyr i lecynnau poblogaidd, felly rydyn ni’n gofyn i bobl ddefnyddio’r rhyddid newydd hwn yn ofalus ac yn gyfrifol.
“Ein blaenoriaeth yw diogelu’r rheini sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ein staff a’r cymunedau o fewn y Parc ac yn y cyffiniau. Bydd gwasanaethau’n ailagor yn gloi ond rydyn ni’n annog pobl i fod yn amyneddgar am y tro, i aros yn lleol a chynllunio ymlaen llaw cyn teithio. Os gallwch gerdded neu feicio i’ch cyrchfan lleol, dyna fyddai orau. Dylech barhau i ddefnyddio rhwydweithiau llwybrau mewndirol lleol a chadw pellter cymdeithasol bob amser er mwyn atal y Coronafeirws rhag lledaenu.”
– Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
I gael mwy o wybodaeth ac i gael y canllawiau diweddaraf, ewch i dudalen Wybodaeth COVID-19 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.