Grwpiau lleol a bywyd gwyllt yn elwa ar gynllun grantiau bach

Posted On : 08/09/2022

Mae tair ysgol leol, clwb pêl-droed ac amrywiaeth o grwpiau cymunedol eraill wedi elwa o’r rownd ddiweddaraf o gyllid gan gynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chafodd ei lansio flwyddyn yn ôl i helpu prosiectau yn y gymuned leol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn darparu ar gyfer cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd.

Daeth tri o’r ceisiadau llwyddiannus o ysgolion lleol. Mae Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro yn bwriadu defnyddio eu harian i greu gardd lesiant, a bydd Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod yn adeiladu gwelyau uchel ar gyfer tyfu cynnyrch tymhorol, gardd goedwig sy’n cynnig ymborth, a chreu gweirglodd. Yr unig ysgol gynradd leol i elwa o’r rownd hon o gyllid oedd Ysgol Gymunedol Doc Penfro, a fydd yn buddsoddi mewn gardd sy’n denu bywyd gwyllt, gardd berlysiau, ardal arbennig i bryfed peillio a gwrych ffrwythau i gynhyrchu eu jam eu hunain.

Dyfarnwyd grant bach hefyd i Sgowtiaid Johnston ar gyfer adfer cynefinoedd a chreu mwy o lefydd i fywyd gwyllt o gwmpas y Neuadd Sgowtiaid Gymunedol. Yn ogystal â phlannu llwyni sy’n denu pili pala, byddan nhw’n llenwi clawdd â pherth brodorol sy’n bodoli’n barod, yn darparu mwy o fannau ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn gosod pyst gwenyn.

Cafwyd ceisiadau llwyddiannus eraill gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, a fydd yn plannu coed ar safle maes y sioe, a Chyngor Tref Dinbych-y-pysgod i greu gardd sy’n denu pryfed peillio ar Riw’r Castell; yn ogystal â chan Glwb Pêl-droed Abergwaun, Cymdeithas Gymunedol East Williamston a Chymdeithas Gymunedol South Ridgeway ym Maenorbŷr.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Unwaith eto, roedd nifer y ceisiadau a gawsom yn fwy na’r swm o arian oedd ar gael, sy’n tystio i faint mae pobl Sir Benfro yn poeni am newid yn yr hinsawdd a’r fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli dros y degawdau diwethaf.

“Mae’r diddordeb a ddangoswyd gan grwpiau o bobl ifanc yn y cynllun wedi bod yn arbennig o dda. Rydym yn gobeithio y bydd eu cyfraniad yn rhoi hwb i’w cysylltiad eu hunain â byd natur ac yn meithrin gwerthfawrogiad oes o’r mannau gwyllt ar garreg ein drws, a pha mor bwysig yw eu gwarchod.”

Daw’r cyllid ar gyfer y grant o’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (a weinyddir gan CGGC) gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ogystal â’r arian a godwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

A butterfly perched on a flower in a meadow.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Gweithredu dros Natur, cofrestrwch i gael newyddion Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro drwy fynd i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/dechrau-sgwrs-gyda-ni/.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.