Gweithredwch dros Natur gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 24/05/2022

Mae cynllun grantiau bach poblogaidd wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar agor unwaith eto ar gyfer ceisiadau.

Y llynedd, derbyniodd 10 o grwpiau nid-er-elw lleol grantiau bach Gweithredu dros Natur o hyd at £500 ar gyfer prosiectau sy’n cael effaith amgylcheddol gadarnhaol, gan gynnwys dôl blodau gwyllt a gwesty pryfed cymunedol ym mhentref Summerhill, gwelliannau bioamrywiaeth i lwybr pren Slash Pond yn Aberllydan, a gardd synhwyraidd yn Ysgol Harri Tudur.

Eleni, codwyd y terfyn grant i £1,000, ac yn ogystal â mudiadau nid-er-elw megis elusennau, grwpiau gwirfoddol â chyfansoddiad, cynghorau cymuned, ysgolion, clybiau chwaraeon a chymdeithasau, cafodd busnesau sy’n gallu dangos budd y cyhoedd o’u prosiect eu gwahodd i ymgeisio.

Rhaid i brosiectau a ariennir naill ai gyflawni gweithrediad cadarnhaol o ran cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd, cefnogi bioamrywiaeth, neu greu mannau gwyrdd newydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys creu dolydd blodau gwyllt ar ardaloedd bach o dir comin a thir cyhoeddus, cynyddu cynefinoedd pryfed peillio, plannu coed, tyfu gwrychoedd, plannu coed ffrwythau a chreu pyllau.

Dywedodd y Rheolwraig Cyllid Allanol, Jessica Morgan: “Pan lansiwyd y cynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur y llynedd, cawsom ein syfrdanu gan lefel yr angerdd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bobl leol tuag at liniaru’r heriau sy’n wynebu ein Parc Cenedlaethol dros y blynyddoedd nesaf.

“Yn anffodus, roedd y diddordeb aruthrol yn y cynllun yn golygu mai dim ond i draean o’r rheini a wnaeth gais yr oedd modd dyrannu cyllid.

“Gyda dyddiad cau eleni yn agosáu, rydym yn annog busnesau a grwpiau nid-er-elw i gysylltu â’u cynigion prosiect.”

Mae ffurflen gais a rhagor o ganllawiau ar gymhwysedd ar gael yma: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/ein-gwaith-an-heffaith/cronfa-gweithredu-dros-natur/.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi eu cwblhau yw hanner nos, nos Wener 21 Mehefin 2022.

The Pembrokeshire Coast National Park Trust is a charity registered by the UK Charity Commission. Its registered charity number is 1179281. Visit https://pembrokeshirecoasttrust.wales for more information on its work.