Lansio prosiect chwarae awyr agored yn Sir Benfro

Posted On : 30/03/2022

Mae cynllun newydd sy’n anelu at gyflwyno rhaglen o weithgareddau chwarae yn yr awyr agored ar gyfer plant cyn oed ysgol wedi cael ei lansio gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Gyda phwyslais ar gefnogi rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol i gael mynediad at natur a’r awyr agored, bydd y peilot 1000 Diwrnod Cyntaf yn para am gyfnod o 12 mis, ac yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r rheini sydd â phlant cyn oed ysgol i gael mynediad at natur a’r awyr agored.

Mae 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn chwarae rhan bwysig a hirbarhaol yn y gwaith o lunio ei ddyfodol. Er gwaethaf hyn, ychydig iawn o gefnogaeth sydd ar gael sydd yn yr ardal leol ar hyn o bryd i’r grŵp oedran hwn a’u teuluoedd i gael mynediad at yr awyr agored gyda’i gilydd. Mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r sefyllfa, gan amddifadu plant a theuluoedd o lawer o gyfleoedd a phrofiadau, ac effeithio’n negyddol ar iechyd meddyliol a chorfforol.

Dangosodd astudiaeth yn y DU, a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012, fod yr amser sy’n cael ei dreulio ym myd natur eisoes wedi haneru mewn un genhedlaeth, gyda phlant heddiw yn treulio cyfartaledd o 4 awr yr wythnos yn chwarae yn yr awyr agored. Mae gan Sir Benfro hefyd rai o’r lefelau uchaf o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru, gyda dros 30% o blant yn cael eu hystyried yn ordew.

Dywedodd Kelly Davies, Gweithiwr Chwarae Awyr Agored yr Awdurdod Parc Cenedlaethol: “Gan ddefnyddio a dathlu’r ‘awyr agored gwych’, rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yn darparu manteision gwirioneddol o ran iechyd a lles i’r rheini sy’n cymryd rhan, ac yn galluogi rhieni a phlant ifanc i ddarganfod a mwynhau llefydd lleol anhygoel yn rhannau mwyaf difreintiedig Sir Benfro”.

Yn ogystal â darparu gweithgareddau chwarae ystyrlon yn yr awyr agored ac adeiladu cydlyniant cymunedol, y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn rhoi hwb i hyder teuluoedd a grwpiau i fynd allan i archwilio’r amgylchedd naturiol a’r holl fanteision sydd ganddo i gynnig.

Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Bydd y cynllun newydd yn helpu i fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol yn y gymuned hon, gwella iechyd meddwl a manteision iechyd ehangach i blant yn nyddiau pwysicaf eu bywyd a defnyddio ymdeimlad gydol oes o ofal a chyfrifoldeb tuag at natur a’r amgylchedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 1000 Diwrnod Cyntaf, cysylltwch â kellyd@arfordirpenfro.org.uk.

Two children laying on grass, using a magnifying glass to inspect a butterfly that is perched on a bunch of yellow dandelions

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi ymrwymo i ddiogelu popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau. Rydyn ni’n poeni’n fawr am gadwraeth, cymuned, diwylliant a’n harfordir ac rydyn ni eisiau arwain y ffordd o ran eu gwarchod. Mae arian ychwanegol ar gyfer y prosiect hwn wedi cael ei ddarparu’n hael gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Elusennol CLA a’r Loteri Cod Post.

Mae rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.