Prosiect chwarae yn yr awyr agored yn cyrraedd carreg filltir chwe mis

Posted On : 04/08/2022

Mae prosiect chwarae yn yr awyr agored a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu chwe mis o gefnogi rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol i gael mynediad at fyd natur a’r awyr agored.

Sefydlwyd y prosiect 1000 Diwrnod Cyntaf i gyflwyno rhieni a phlant ifanc o rai o rannau mwyaf difreintiedig y sir i fanteision iechyd a llesiant treulio amser yn yr awyr agored.

Hyd yma, mae Kelly Davies, Gweithiwr Chwarae Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi bod yn bresennol mewn wyth grŵp chwarae, gan ddwyn budd i 24 o oedolion a 104 o blant. Darparwyd gweithgareddau awyr agored hefyd ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd gan brosiect lleol Plant Dewi, a fynychwyd gan dros 80 o deuluoedd

Dywedodd Kelly Davies: “Mae’r adborth ar y sesiynau chwarae dwy awr yn yr awyr agored wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer o’r rhieni’n sôn am y diddordeb a ddangoswyd gan eu plant yn y gweithgareddau, a oedd yn cynnwys adeiladu cuddfannau, adeiladu nythod a hela chwilod. Hefyd, cafodd arweinwyr grŵp syniadau am sut i ddefnyddio’r offer maen nhw’n berchen arno’n barod a sut i ddefnyddio mannau gwyrdd o fewn pellter cerdded i’w lleoliad.”

Cynhaliwyd sesiynau hefyd yn Oriel VC yn Noc Penfro, lle cafodd rhieni a phlant dan ddwy oed gyfle i gymdeithasu drwy chwarae yn yr awyr agored. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y grŵp yn cael ei gyflwyno i lefydd a phrofiadau newydd, gan gynnwys chwilota’r ddôl ar gwrs golff, picnic yn y Parc a gwibdeithiau i Ardd Goedwig Colby a Thraeth Dwyrain Freshwater.

Dros chwe mis nesaf y prosiect, disgwylir i wyth lleoliad grwp chwarae Blynyddoedd Cynnar ac o bosibl 12 meithrinfa Dechrau’n Deg arall gymryd rhan yn y prosiect.

Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Er bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i siapio eu dyfodol, ychydig o gefnogaeth sydd wedi bod yn yr ardal leol hyd yma i’r grŵp oedran hwn a’u teuluoedd gael mynediad i’r awyr agored gyda’i gilydd.

“Rydyn ni bellach hanner ffordd drwy’r cynllun peilot hwn, ac mae hi eisoes wedi bod yn werth chweil gweld ei effaith ar blant ifanc a’u teuluoedd ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y chwe mis nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 1000 Diwrnod Cyntaf, cysylltwch â kellyd@arfordirpenfro.org.uk.

a landscape featuring the sea, the beach and the surrounding cliffs

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi ymrwymo i gadw popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yma i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Mae arian ychwanegol ar gyfer y prosiect hwn wedi cael ei roi’n hael gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Elusennol CLA a’r Loteri Cod Post.