Prosiect dehongli archaeoleg yn rhoi hwb i safleoedd treftadaeth lleol a’u cymunedau

Posted On : 05/10/2022

Bydd tri safle archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn arwain at welliannau i hygyrchedd a dealltwriaeth y cyhoedd, diolch i brosiect newydd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cronfa Trysorau’r Filltir Sgwâr Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Sackler, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Bydd y prosiect, sydd hefyd yn cael ei gyflwyno ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed drwy brosiect Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth, yn cael ei gynnal dros 2022, a’i nod yw gwella’r dehongliad presennol yn Foel Drygarn, Gors Fawr a’r Hen Gastell yng Nghasnewydd. Y gobaith yw y bydd y cynnwys newydd yn helpu i ddod â’r safleoedd yn fyw ac yn helpu cymunedau lleol a’r cyhoedd i weld arwyddocâd y safleoedd hynny.

Dywedodd yr Archaeolegydd Cymunedol Tomos Ll. : “Ar ôl cwblhau gwaith tebyg mewn safleoedd eraill, fel Capel Sant Padrig yn Mhorth Mawr, rydyn ni’n gwybod y bydd datblygu a gwella cynnwys dehongli yn arwain at fwy o ymgysylltu – ac y mwyaf y bydd pobl yn deall pam fod lle penodol yn bwysig, mae’n fwy tebygol y bydd yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Fel rhan o’r prosiect, bydd ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid yn digwydd i helpu i ddatblygu’r cynnwys.

Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl o bob cefndir ac oedran. Un o brif elfennau’r prosiect hwn yw sicrhau bod dehongliad newydd mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl.”

“Yn ogystal â galluogi ysgolion i gael gafael ar y dehongliad ar-lein ac ymgysylltu â demograffig iau, rydyn ni’n gobeithio y bydd yr elfen ddigidol yn golygu y bydd y rheini sy’n llai abl yn gorfforol, neu sydd â rhwystrau eraill i gael mynediad at y safleoedd, yn dal i allu cael mynediad at y dreftadaeth a chael ymdeimlad o fod yno’n ffisegol.”

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

I gael rhagor o wybodaeth am ei brosiectau a’u heffaith, ewch i: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/ein-gwaith-an-heffaith/.