Rhowch drefn ar eich pethau yn ystod Mis Ewyllysiau am Ddim gyda chynnig arbennig

Oherwydd cyfyngiadau covid-19, mae’n bosibl nad yw’n syndod clywed bod cynnydd o 267% wedi bod yn nifer y bobl wnaeth ysgrifennu eu hewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn yn 2020, ond wyddech chi y gallech chi wneud eich ewyllys am ddim diolch i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi mynd i bartneriaeth ag ysgrifenwyr ewyllysiau mwyaf y Deyrnas Unedig Farewill i gynnig ichi gyfle i ysgrifennu ewyllys cyfreithiol rwymol ar-lein mewn cyn lleied â 15 munud. Gan mai Mawrth yw Mis Ewyllysiau am Ddim, nawr yw’r amser perffaith i rhoi trefn ar eich pethau.

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Elsa Davies LVO:

“Rydyn ni’n gobeithio y gwnewch ystyried rhoi rhodd ar ôl ichi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, ond nid oes raid ichi gynnwys rhodd yn eich ewyllys i’r Ymddiriedolaeth i fanteisio ar y cynnig.

“Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn ein helpu i barhau i gefnogi prosiectau ym maes cadwraeth, addysg, diwylliant a’n harfordir ar draws y Parc Cenedlaethol. Drwy gymryd y camau bychain hyn yn awr, gallwch helpu i gael effaith fawr a helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol am flynyddoedd lawer.”

Multigenerational family walking through sand dunes near a beach

Mae adroddiad tueddiadau Farewill yn 2020 wedi dangos bod dros £150 miliwn wedi cael ei addo i elusennau yn 2020 gydag oddeutu 1 o bob 5 ewyllys yn cynnwys rhodd i elusen; mae hwn yn gynnydd o 28% ar 2019.

I ysgrifennu eich ewyllys ar-lein am ddim ewch i wefan Farewill.

I ddysgu rhagor am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r gwaith y mae’n ei gefnogi ewch i’r adran Ein Gwaith a’n Heffaith.