Sialens Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 14/07/2022

Mae’r Sialens Pen-blwydd 70 yn gwahodd cyfranogwyr i naill ai cerdded 70 milltir neu nofio yn y môr 70 gwaith dros gyfnod o saith mis. Mae modd cerdded yn annibynnol rhywle yn y Parc, neu fel rhan o raglen teithiau tywys 70@70 yr Awdurdod, a fydd yn rhedeg tan Ddydd Gwener 23 Medi 2022.

Mae llwybrau’r teithiau cerdded 70@70 yn amrywio o ddwy filltir i saith milltir o hyd ac yn cynnwys golygfeydd adnabyddus o Lwybr yr Arfordir yn ogystal ag ardaloedd mewndirol, fel Cwm Gwaun a Bryniau’r Preseli. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar y teithiau cerdded hyn ac mae archebu yn hanfodol yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau/.

Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r Sialens yn cynnig cyfle unigryw i gadw’n heini ac ymweld â rhai o leoliadau mwyaf eiconig y Parc, yn ogystal â darganfod ei drysorau cudd – tra’n codi arian er mwyn helpu ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Os ydych chi’n athletwr profiadol, neu’n rhywun sydd eisiau gwella ei ffitrwydd personol neu’n ddigon mentrus i nofio yn yr awyr agored, rydych yn annhebygol o ddod o hyd i lawer o leoliadau ymarfer corff sydd â chystal golygfeydd a bywyd gwyllt ag Arfordir Penfro.

“Os ydych chi eisiau cefnogi’r ymgyrch hon a dod yn Rym er Natur, anfonwch e-bost i support@pembrokeshirecoasttrust.wales i gael gwybod y camau nesaf. Gofynnir i gyfranogwyr greu tudalen Just Giving ac ymuno â’n grŵp Facebook o godwyr arian ar gyfer anogaeth. Ar ôl gwneud hyn, gellir dechrau’r sialens codi arian.”

Mae gwybodaeth am dros 200 o lwybrau cerdded ledled y Parc Cenedlaethol ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cerdded.

I gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth, sut mae cyfrannu, neu i gael eich ychwanegu at restr bostio cefnogwyr i gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol, ewch i’r wefan https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.