Stena Line yn cefnogi prosiect bioamrywiaeth Llwybr Arfordir Sir Benfro

Cyhoeddwyd : 18/02/2020

Mae prosiect sy’n mynd ati i hybu bioamrywiaeth ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn mynd i gael ei hwb ei hun yn sgil cyfraniad sylweddol gan Stena Line, sy’n rhedeg y fferi rhwng Abergwaun a Rosslare.

Sicrhaodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfraniad gan Stena Line i ddarparu cerbyd trydan i gefnogi gwaith Warden Peillwyr cyntaf y DU, Vicky Squire.

Mae rôl Vicky yn rhan o brosiect ‘Pobl, Llwybrau a Pheillwyr’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n rhoi bioamrywiaeth wrth galon y gwaith i gynnal a chadw Llwybr yr Arfordir. Bydd ei gwaith yn gwella amodau ar gyfer bywyd gwyllt ac yn gwella mwynhad cerddwyr.

Dywedodd Elsa Davies LVO, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am y cyfraniad hwn gan y bydd yn helpu i leihau ôl troed carbon cyffredinol y prosiect. Mae Vicky yn teithio o amgylch yr arfordir yn canfod lleoliadau lle gellir gwneud newidiadau er budd bioamrywiaeth a bydd y cerbyd a ariennir gan Stena Line yn golygu bod modd iddi wneud hynny ar yr un pryd â lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd.

“Dyma’r cerbyd cwbl drydan cyntaf i gael ei ddefnyddio gan staff y Parc Cenedlaethol a gobeithio mai dyma’r cyntaf o fflyd o gerbydau gwyrdd”.

Ychwanegodd Vicky: “Er i fy ngwaith ganolbwyntio i ddechrau ar y darn o Lwybr yr Arfordir rhwng Abereiddi a Niwgwl, mae bellach yn cael ei ymestyn i gwmpasu mwy byth o filltiroedd er mwyn gwneud y Llwybr Cenedlaethol mor gyfeillgar i beillwyr â phosibl.

“Mae’n wych gwybod y bydd y cerbyd hwn yn helpu i leihau effaith fy ngwaith ar yr amgylchedd ac yn cyfrannu at ymateb Awdurdod y Parc i newid yn yr hinsawdd.”

Ychwanegodd Ian Davies, Cyfarwyddwr Masnach, Stena Line, De Môr Iwerddon: “Fel busnes, rydyn ni bob amser yn gwneud ein gorau glas i leihau ein hôl troed ecolegol ym maes cynaliadwyedd. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r prosiect bioamrywiaeth pwysig hwn.”

Lansiwyd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 2019 i godi arian ar gyfer prosiectau a gweithgareddau pwysig sy’n cyfrannu at gadwraeth, addysg a mwynhad pobl o’r Parc Cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ei gwaith a sut gallwch chi helpu, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.