Taith gerdded bywyd gwyllt i gefnogwyr Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol

Posted On : 18/08/2022

Cafodd cefnogwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro weld bywyd gwyllt anhygoel yn ystod taith gerdded dywysedig drwy ddôl Skrinkle yn ddiweddar.

Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn ystod tywydd godidog yr haf, fel ffordd o ddiolch i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth a thynnu sylw at bwysigrwydd dolydd ac ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd yr Ymddiriedolaeth.

Mae ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2019, ac mae’n ceisio gwrthdroi’r dirywiad cenedlaethol dramatig mewn dolydd blodau gwyllt dros y 75 mlynedd diwethaf. Hyd yma, mae wedi codi digon o arian i gynnal 13 o ddolydd dros gyfanswm o 132 hectar, a darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall.

Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Roedd y digwyddiad Cerdded a Siarad yn Skrinkle yn gyfle gwych i arddangos canlyniadau lliwgar adfer y ddôl, a diolchwn i Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaeth Parcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a gyfrannodd ei harbenigedd a chreu digwyddiad hynod o bleserus. Mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithio am flynyddoedd i wella bioamrywiaeth yn nôl Skrinkle, ac mae hadau o’r ddôl wedi cael eu defnyddio i greu dolydd blodau gwyllt eraill yn y Parc.

“Ar yr achlysur hwn, roedd bwrnedau chwe smotyn yn dwyn yr holl sylw, ond yn y gorffennol mae dôl Skrinkle wedi darparu rhai o’r arddangosfeydd tegeiriau gorau a’r amrywiaeth gyfoethocaf o flodau gwyllt yn y sir.”

Roedd thema adfywio’r ddôl o ddiddordeb arbennig i lawer o’r rhai a oedd yn bresennol, sydd naill ai â dolydd eu hunain, neu sy’n ystyried sefydlu rhai newydd.

I ddysgu am waith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a digwyddiadau arbennig i gefnogwyr, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.

A group of individuals overlooking a beautiful view of the sea, cliffs and caldey island in the distance.