Ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd yn cyrraedd £10,000
Dros y 12 mis diwethaf, mae ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhagori ar ei tharged, gan godi dros £10,000 i greu mwy o gynefinoedd ar gyfer pryfed peillio.
Bydd yr arian presennol yn cefnogi wyth safle newydd, sydd at ei gilydd yn cynnwys 52 hectar. Mae’r dolydd hyn yn cynnig ‘cerrig camu’ ar gyfer bywyd gwyllt, gan alluogi pryfed a phlanhigion i symud ar draws ardal ehangach er mwyn i’w rhywogaethau ffynnu a chael eu cynnal.
Un rhywogaeth sy’n siŵr o elwa o’r ‘cerrig camu’ hyn yw glöyn byw brith y gors, sy’n dibynnu ar gynefinoedd glaswelltir corsiog ac sydd wedi dirywio’n ddramatig dros y degawdau diwethaf. Nid ydyn nhw fel arfer yn hedfan yn bell iawn, ac maen nhw’n tueddu i fynd cyn belled â’r cae nesaf.
Mewn blynyddoedd da pan fo’r boblogaeth yn ffynnu, mae rhai unigolion yn llwyddo i fynd ymhellach. Fodd bynnag, mae’n gylch o ffynnu a methu ar gyfer brith y gors, diolch i wenynen barasitig hyd yn oed yn fwy prin a all ddinistrio poblogaethau. Felly, mae’n rhaid sicrhau bod ‘cerrig camu’ addas gerllaw er mwyn iddyn nhw ymledu.
Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Un o’r pethau gorau am gynnal dolydd yw, unwaith y maen nhw’n cael eu sefydlu, gellir eu rheoli gyda chyn lleied o ymyriadau a chost â phosibl Fodd bynnag, mae bob amser mwy o waith y gellir ei wneud.
“Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu parhau i godi arian ar gyfer ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd er mwyn i ni allu cynnal y dolydd presennol, adfer y rhai sydd wedi cael eu hesgeuluso a gweithio gyda thirfeddianwyr i greu dolydd newydd ar draws y Parc Cenedlaethol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr amser y gall gwaith ar gynnal ein dolydd ddechrau eto, gan fod y gwaith wedi cael ei ohirio dros y misoedd diwethaf oherwydd sefyllfa’r Coronafeirws.”
Gwnewch wahaniaeth i fyd natur drwy anfon neges destun at MOREMEADOWS a’r rhif 70085. Mae negeseuon testun yn costio £5 yn ogystal ag un neges ar eich cyfradd safonol.
Gallwch hefyd wneud rhoddion ar-lein drwy fynd i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/sut-gallwch-chi-helpu/creu-mwy-o-ddolydd/