Ymunwch â Bwrdd Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig sy’n ymroddedig i gadw popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiogel er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Mae cadwraeth, cymuned, diwylliant a’n harfordir yn agos iawn i’n calonnau, ac rydym am arwain y ffordd i’w gwarchod. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r prosiectau gorau a gyflawnir gan y bobl orau ac sy’n cael eu llywio gan Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y cymunedau lleol a’r arbenigwyr amgylcheddol a threftadaeth.
Lansiwyd yr elusen yn 2019 ac ers hynny rydym wedi codi £200,000 a mwy i gefnogi mentrau cadwraeth, rhaglenni addysg a gwaith mynediad ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Ar hyn o bryd mae gennym leoedd gwag ar ein Bwrdd deinamig. Rydym yn chwilio am bobl angerddol i helpu i hyrwyddo ein rhaglen ddyngarol drwy helpu i sicrhau cymorth sylweddol i brosiectau sy’n ceisio cyflawni nodau’r elusen i warchod a gwella’r Parc Cenedlaethol.
Hoffem glywed oddi wrthych os gallwch ddangos cymwyseddau cryf yn y meysydd dyngarwch, cyllid, marchnata, ac angerdd dros Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dylai’r rhai sydd â diddordeb wneud cais erbyn yr 8 Mehefin 2022, gan anfon CV a llythyr eglurhaol at Jessica Morgan, Cyfarwyddwr yr Elusen yn jessicam@pembrokeshirecoast.org.uk. Neu am ragor o wybodaeth am y rôl ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ffoniwch 01646 642811.