Brecwast Rhwydwaith i Fusnesau

Ydych chi yn fusnes yn Sir Benfro? Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ar gyfer ein brecwast rhwydweithio blynyddol cyntaf erioed am 8 y bore ddydd Mercher, 28 Mehefin 2023 yn Neuadd y Frenhines, Arberth, a noddir gan LNG South Hook.

Cyfle i gysylltu â busnesau o bob rhan o’r sir, darganfod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, a chlywed gan ein siaradwyr gwadd arbennig, hyn i gyd tra’n mwynhau brecwast blasus.

Mae’r llefydd sydd ar gael yn y brecwast AM DDIM hwn yn gyfyngedig felly mae croeso i chi fynegi eich diddordeb mewn mynychu (a nodi eich gofynion deietegol) drwy gysylltu â support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

Bydd tri siaradwr gwadd ysbrydoledig yn ymuno â ni:

Noddir y brecwast hwn gan LNG South Hook, sy’n ein galluogi i gynnig y digwyddiad cyffrous hwn yn ddi-dâl. I gael gwybod mwy am y modd y mae LNG South Hook wedi cefnogi’r Ymddiriedolaeth, cliciwch yma: Diwrnod Afalau yn Sain Ffraid yn fuddiol i ddisgyblion lleol – Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro

Cliciwch yma am amserlen y digwyddiad. 

 

Lucie Macleod, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Brand Gofal Gwallt Feirol, Hair Syrup

Mae Lucie Macleod yn 23 oed ac yn raddedig o Brifysgol Warwick ac yn Entrepreneur.

Yn ystod ei hail a’i blwyddyn olaf o astudio yn y brifysgol, dechreuodd Lucie werthu olewau gwallt wedi’u gwneud â llaw er mwyn creu incwm ychwanegol. Roedd hi wedi defnyddio’r olewau hyn ar ei gwallt ei hun ers blynyddoedd lawer, ac roedd y canlyniadau mor syfrdanol, roedd hi’n gwybod bod rhaid iddi rannu’r cynhyrchion hyn â gweddill y byd.

Ers dechrau yn ystafell sbâr ei rhieni, mae hi bellach wedi tyfu Hair Syrup i fod yn gwmni gwerth miliynau o bunnoedd gyda 3 warws a 15 a mwy o weithwyr. Mae Hair Syrup erbyn hyn yn cael ei ystyried yn frand “TikTok feirol”, mae’n cael ei werthu gan gwmnïau mawr megis ASOS a Beauty Bay ac mae’n cael sylw yn gyson yn y wasg, yn amrywio o Business Insider i’r Sunday Times.

 

Emma Thornton, Prif Weithredwr Croeso Sir Benfro

Emma yw Prif Weithredwr Croeso Sir Benfro, a lansiwyd fis Tachwedd 2020, sef y Sefydliad Rheoli Cyrchfan cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’n arwain ar ddulliau cydlynus o ddarparu twristiaeth ar draws y Sir drwy’r Cynllun Rheoli Cyrchfan 2020-25.

Mae Croeso Sir Benfro yn sefydliad sy’n seiliedig ar faterion masnach, yn arbenigo mewn arwain ac eiriol ar faterion twristiaeth, marchnata cyrchfannau, cynnal ymgyrchoedd a phrosiectau, bod yn ddolen gyswllt ac yn gymorth i’r diwydiant twristiaeth, yn gwneud gwaith ymchwil a dosbarthu gwybodaeth am y farchnad, a chynorthwyo i gynnal digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn dangos ymrwymiad y Partneriaid yn Sir Benfro i weithio drwy gydweithredu, ac mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth a strategaeth glir i dyfu twristiaeth mewn modd cynaliadwy er budd pawb.

Mae gan Emma 20 mlynedd a mwy o brofiad yn gweithio ar draws disgyblaethau Rheoli Canol Dinas a Thwristiaeth. Mae hi’n angerddol am adeiladu partneriaethau effeithiol sy’n sicrhau bod cyrchfannau yn cyrraedd eu potensial ac yn gwneud y mwyaf o’r buddion economaidd i’r ardal ehangach.

 

Tom Bean, Parcmon Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro