Dyma ddywed un o Swyddogion Cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghylch pam fod cefnogi cynefinoedd gwenyn mor bwysig …..
“Gweld dirywiad sylweddol dros y degawdau diwethaf, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd llawn blodau gwyllt ar draws ein cefn gwlad. Mae cynefinoedd megis dolydd, glaswelltir corsiog a gweundir grugog yn ateb anghenion gwenyn drwy roi llefydd iddynt nythu yn ogystal â phaill a neithdar. Yn eu tro mae’r gwenyn yn peillio llawer o’n blodau gwyllt ac yn sail i gynhyrchu llawer o gnydau bwyd ar ein ffermdir. Mae gwarchod ac adfer cynefinoedd addas, a chreu rhai newydd, gan gynnwys ‘pocedi’ o gynefinoedd ar ein ffermydd, ein trefi a’n gerddi, yn hanfodol i sicrhau dyfodol iach i’n cacwn a’n gwenyn unig ac i’n peillwyr hyfryd eraill.”
Clare Flyn; PCNPA Swyddog Cadwraeth