MABWYSIADU GWENYNEN

Beth am fabwysiadu gwenynen am gyn lleied â £30*, ac ymuno â’r haid o gefnogwyr sy’n helpu i warchod cynefinoedd gwenyn ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn eich pecyn mabwysiadu byddwch yn derbyn:

  • Tegan meddal o wenynen
  • Tystysgrif mabwysiadu
  • Cymysgedd o hadau blodau gwyllt brodorol y DU
  • Taflen ffeithiau am wenyn

Cliciwch yma i fabwysiadu eich gwenynen

Mae’r holl elw yn mynd at warchod cynefinoedd gwenyn a ffynonellau bwyd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ymweld â Chastell Caeriw, Oriel y Parc neu Gastell Henllys? Gallwch hefyd gael pecyn mabwysiadu o unrhyw un o’r safleoedd hyn.

*Noder os gwelwch yn dda, mae postio i lefydd yn y DU wedi’i gynnwys yn y pris. Os dymunwch i’ch eitem gael ei anfon i wlad dramor, codir tâl ychwanegol. Ffoniwch 01646 624909 i gael gwybod mwy.

Dyma ddywed un o Swyddogion Cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghylch pam fod cefnogi cynefinoedd gwenyn mor bwysig …..

“Gweld dirywiad sylweddol dros y degawdau diwethaf, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd llawn blodau gwyllt ar draws ein cefn gwlad. Mae cynefinoedd megis dolydd, glaswelltir corsiog a gweundir grugog yn ateb anghenion gwenyn drwy roi llefydd iddynt nythu yn ogystal â phaill a neithdar. Yn eu tro mae’r gwenyn yn peillio llawer o’n blodau gwyllt ac yn sail i gynhyrchu llawer o gnydau bwyd ar ein ffermdir. Mae gwarchod ac adfer cynefinoedd addas, a chreu rhai newydd, gan gynnwys ‘pocedi’ o gynefinoedd ar ein ffermydd, ein trefi a’n gerddi, yn hanfodol i sicrhau dyfodol iach i’n cacwn a’n gwenyn unig ac i’n peillwyr hyfryd eraill.”

Clare Flyn; PCNPA Swyddog Cadwraeth

Cliciwch yma i fabwysiadu eich gwenynen