Addysg wrth ‘wraidd’ partneriaeth newydd
Yn ddiweddar fe ymwelodd cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro â Therfynell South Hook LNG, wrth i'r prosiect addysg mewn partneriaeth 'Gwreiddiau/Roots' gychwyn.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu.
Aeth rhai o ymddiriedolwyr yr elusen i ymweld â South Hook LNG i weld y Derfynell ac i ddysgu mwy am y gweithgareddau gweithredol, yn ogystal â thrafod nodau’r prosiect addysg.
“Er ein bod yn rhan o gadwyn gyflenwi ynni fyd-eang, mae bod yn rhan o gymuned Sir Benfro yn bwysig iawn i ni,” dywedodd Hamad Al Samra, Rheolwr Cyffredinol South Hook LNG.
“Dyna pam ein bod o falch o gefnogi Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn rhaglen addysg a fydd yn gadael i blant archwilio’r rhwydweithiau bwyd a chynnyrch naturiol sy’n bodoli yma yn ein cymuned.”
Bydd Gwreiddiau/Roots yn cynnwys chwe ysgol gynradd yn ardal Aberdaugleddau, gan archwilio’r cadwyni bwyd a chynnyrch naturiol yng nghymunedau amaethyddol, arfordirol a gwledig y Sir.
O beillio a maethynnau’r pridd, i sut mae bwyd yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol a bywyd teuluol, bydd plant yn cysylltu â’r amgylchedd a’r cymunedau sy’n gweithredu ynddo.
Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, “Mae’r prosiect hwn wir yn mynd at wreiddiau dysgu, oherwydd bydd yn dysgu ffeithiau sylfaenol bodolaeth i blant mewn ffordd ymarferol a byw. Mae’n rhyfeddol bod cwmni sy’n gweithredu ar raddfa fyd-eang wedi penderfynu, yn ei ddoethineb, canolbwyntio ar helpu plant i werthfawrogi’r hyn sydd o’u cwmpas yn y ffordd wreiddiol hon.
“Gobaith yr Ymddiriedolaeth yw y bydd llawer mwy o gwmnïau’n dilyn esiampl ardderchog South Hook LNG, a’n helpu i weithio mwy ar brosiectau tebyg er budd yr amgylchedd a chymunedau yn Sir Benfro.
Er mai ers dechrau’r flwyddyn mae Gwreiddiau/Roots wedi cychwyn, roedd plant yn Ysgol y Glannau wedi dechrau treialu’r prosiect y llynedd.
O gynaeafu afalau yn Sain Ffraid a gwneud siytni gyda changen leol Sefydliad y Merched yn Dale, i balu am blanhigion gwenith a mwydod yn Fferm Trewarren yn Llanismael, bydd natur ryngweithiol y prosiect yn bendant o fudd enfawr i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan.